top of page
Heritage Coast Vale Nature Partnership

Cynllun Gweithredu Adfer Natur 

Datblygwyd y Cynllun Gweithredu Adfer Natur (CGAN) ar gyfer Bro Morgannwg i ddarparu fframwaith i unrhyw un sy'n cyflawni camau i warchod, diogelu a chyfoethogi natur yn y Fro. Mae ein CGAN yn canolbwyntio ar 6 math eang o gynefinoedd gan gynnwys Coetir, Dŵr Croyw, Glaswelltir, Arfordirol, Amaethyddiaeth a Threfol. Nodwyd ystod o gamau gweithredu i gefnogi adferiad natur yn y Fro.  

​ 

  • Mae Camau Gweithredu Craidd yn berthnasol i bob cynefin ar draws y Fro.  

  • Mae camau gweithredu sy’n benodol i gynefinoedd wedi'u nodi ar gyfer pob math o gynefin.  

  • Camau gweithredu ar gyfer grwpiau a sefydliadau 

Ein Hamcanion  

Mae 5 amcan y Cynllun Gweithredu Adfer Natur (CGAN) yn gwahodd partneriaid i weithio gyda'i gilydd i helpu natur. Gweithiodd Partneriaeth Natur y Fro gyda'i gilydd i ddatblygu CGAN y Fro. Byddwn yn defnyddio'r cynllun i arwain ein partneriaid wrth bennu eu blaenoriaethau ar gyfer gweithredu. 

Camau Gweithredu  

Bydd y camau gweithredu hyn yn llywio sut y byddwn yn cyflawni ein hamcanion er mwyn diogelu natur y Fro. 

Camau Gweithredu Craidd 

Ymchwil, gwybodaeth a monitro 

Datblygu cylchlythyr i gofnodwyr ar gyfer y Fro
Casglu data gwaelodlin ar gyfer rheoli cynefinoedd
Hyrwyddo cyfranogiad mewn arolygon cenedlaethol a lleol
Hyrwyddo hyfforddiant ar gyfer cofnodi cynefinoedd a rhywogaethau

Ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad 

Atal rhywogaethau estron goresgynnol rhag lledaenu
Atal tanau gwyllt
Hyrwyddo bywyd gwyllt a grwpiau cymunedol
Stopio'r cemegau
Nid yw Natur yn Daclus
Lleihau llygredd

Rheoli cynefinoedd a rhywogaethau 

Swydd Swyddog Adfer Natur
Hyfforddiant rheoli cynefinoedd
30x30 (30% o'r tir a'r môr wedi'i ddiogelu erbyn 2030)
Rheoli tir gyda natur mewn golwg
Rhwydweithiau Ecolegol Gwydn a rhwydweithiau cynefinoedd eraill

Polisi: Diogelu cynefinoedd a rhywogaethau 

Adolygiad ddwywaith y flwyddyn ar liniaru rhywogaethau rhag datblygu
Diogelu safleoedd bywyd gwyllt pwysig presennol
Hyrwyddo gorfodi deddfwriaeth
Integreiddio cadwraeth natur a diogelu bywyd gwyllt yn y Fro a'r rhanbarth ehangach
Cymryd rhan mewn ymgynghoriadau
Dynodiadau Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SoBCN)
Hyrwyddo ymgysylltiad â Chynlluniau Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru
bottom of page